Ty tafarn Gymreig lleol - yn cael ei chynnal gan y gymuned ar gyfer y gymuned.
Mae'r Iorwerth Arms yn dafarn gymunedol a redir gan y gymuned pan achubwyd rhag cau a’i dymchwel yn 2015. Mae bellach yn dafarn lwyddiannus nid-am-elw a redir gan gyfarwyddwyr di-dâl fel canolfan gymunedol ar gyfer ardal Bryngwran. Ers dod yn dafarn sy'n eiddo i'r gymuned – y busnes adwerthu olaf yn y pentref – mae'r Iorwerth Arms wedi ennill nifer o wobrau (rownd derfynol Gwobr dechrau busnes Cymru 2016 ac enillydd tafarn wledig orau Cymru a Phrydain, gwobrau'r Gynghrair Cefn Gwlad 2019).
Oherwydd cyfyngiadau Covid-19 ni chaniateir i ni gynnal adloniant byw, cerddoriaeth jiwcbocs na darlledu chwaraeon ar hyn o bryd. Byddwn yn gobeithio y bydd y canllawiau'n newid ar hyn a byddwn yn adfer yr holl bethau a arferai wneud yr Iorwerth yn dafarn adloniant o'r radd flaenaf cyn gynted ag y caniateir i ni.